PÊL-DROED BYW: Pen-y-bont v Y Barri | JD Cymru Premier | Sylwebaeth Gymraeg
S4C S4C
16.9K subscribers
161 views
0

 Published On Streamed live on Oct 4, 2024

Y tîm sydd ar frig y gynghrair Pen-y-bont yn croesawu'r Barri i Stadiwm Gwydr SDM. Cic gyntaf am 7.45. ⚽️

Rhagolwg:

Pen-y-bont sy’n parhau i osod y safon, driphwynt yn glir ar y copa gyda 23 o bwyntiau ar ôl ennill saith o’u 10 gêm gynghrair hyd yma.

Adeg yma’r tymor diwethaf, wedi 10 gêm gynghrair, roedd Pen-y-bont yn y 5ed safle gyda 17 o bwyntiau, naw pwynt y tu ôl i’r Seintiau Newydd (26pt).

Bydd Y Barri ddim yn dîm hawdd i’w curo gan eu bod m’ond wedi colli un o’u saith gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth, a’r golled honno yn erbyn YSN (ennill 4, cyfartal 2)

Mae’r dair ornest ddiwethaf rhwng y timau yma wedi gorffen yn gyfartal, ond dyw Pen-y-bont heb golli mewn 10 gêm yn erbyn Y Barri (ennill 5, cyfartal 5).

#LiveFootball #Penybont #BarryTownUnited #JDCymruPremier

show more

Share/Embed